The L-Space Web

Theatr Creulondeb

Stori fer o'r Disgfyd
gan Terry Pratchett

Copyright © Terry Pratchett 1993


Roedd hi'n fore braf o hâf, y math o fore i beri i ddyn deimlo'n falch ei fod yn fyw. Ac, yn ôl pob tebyg, buasai'r dyn yn hapusach i fod yn fyw. Roedd, mewn gwirionedd, yn farw. Fuasai'n anos iddo fod yn fwy marw heb hyfforddiant arbennig.

"Rŵan, 'te," meddai Sarjant Colon (Gwarchodlu Dinas Ankh-Morpork, Gwylwyr Y Nos), yn darllen ei lyfr nodiadau, "hyd yn hyn, mae achos marwolaeth yn a) cael ei guro gan o leia' un erfyn di-fin b) cael ei dagu gan linyn o sosejys ac c) cael ei gnoi gan o leia' dau anifail efo dannedd mawr, miniog. Be' wnewn ni rŵan, Nobby?"

"Arestio'r dyn amheus, Sarj," atebodd Corporal Nobbs, yn saliwtio'n dwt.

"Dyn amheus, Nobby?"

"Fo," meddai Nobby, yn procio'r corff efo'i esgid. "Dwi'n ei hystyried hi'n amheus iawn, bod yn farw fel 'na. Mae o wedi bod yn yfed, hefyd. Allen ni'i gael o am fod yn farw ac yn anhrefnus."

Crafodd Colon ei ben. Buasai rhai manteision i'w cael wrth arestio'r gelain, wrth gwrs. Ond...

"Dybiwn i," meddai yn araf, "bydd Capten Vimes isio i hyn gael ei sortio. Well i chi ddod â fo yn ôl i'r Orsaf, Nobby."

"Allen ni fyta'r sosejys wedyn 'te, Sarj?" gofynodd Corporal Nobbs.


Doedd hi ddim yn hawdd fod yn brif heddwas ar Ankh-Morpork, y fwyaf o holl ddinasoedd y Disgfyd [*]

Roedd yn bur debyg fod yna fydoedd, myfyriai'r Capten Vimes pan fuasai'r felan arno, lle nad oedd yna ddewiniaid (a wnaeth cyfrinachau ystafell dan glo yn bethau cyffredin) neu sombis (roedd achosion o lofruddiaeth yn wir od pan allai'r dioddefwr fod yn brif-dyst hefyd) a lle gallai dyn ddibynnu ar gŵn i wneud dim byd yn y nos a pheidio â mynd o gwmpas yn sgwrsio â phobl. Credodd Capten Vimes yn rhesymeg, yn yr un modd ag y credai dyn mewn anialwch yn iâ - h.y. rhywbeth yr oedd mawr angen arno amdano, ond nid hwn oedd y byd amdano. Am unwaith, meddyliodd, buasai'n braf i ddatrys rhywbeth.

Edrychodd ar y corff gwyneblas ar y llech, a theimlo cryndod bach o gyffro. Roedd yna arwyddion. Doedd o ddim wedi gweld arwyddion go iawn o'r blaen.

"Nid lleidr wnaeth o, Capten," meddai Sarjant Colon. "Achos roedd ei bocedi'n llawn arian. Un ddoler ar ddeg."

"Faswn i ddim yn galw hynny'n llawn", dywedodd Capten Vimes.

"Roedd hi'n geiniogau a dimeiau i gyd, syr. Rhyfedd fod ei drowsus wedi dal y pwysa'. A dwi wedi bod mor glyfar â darganfod mai dyn sioe oedd o, syr. Roedd ganddo gardiau yn ei boced, syr. 'Chas Slumber, Diddanwr Plant'."

"Siawns na welodd neb ddim byd?", gofynodd Vimes.

"Wel, syr," meddai Sarjant Colon i helpu, "Mi ddwedais i wrth y llanc Cwnstabl Moronen i ffeindio tystion."

"Gofynsoch chi i Gorporal Moronen i ymchwilio i mewn i achos o lofruddiaeth? Ar ei hunan bach?"

Crafodd y Sarjant ei ben.

"Ac mi ofynodd o i mi, a own i'n nabod neb oedd yn hen iawn ac yn sâl ddifrifol?"


Ac, ar y Disgfyd hud, y mae pob tro un tyst sicr ar gyfer pob dynladdiad. Dyna  ei swydd.

Yn aml, tarodd Cwnstabl Moronen, aelod ieuengaf y Gwylwyr, rai pobl fel ei fod yn syml. Ac yr oedd. Roedd yn syml dros ben, ond yn yr un modd ac y mae cleddyf yn syml, neu y mae ymosodiad sydyn yn syml. Hefyd, fo oedd y dyn, o bosibl, a oedd ganddo'r meddwl mwyaf llinellol yn hanes y bydysawd.

Roedd wedi bod yn disgwyl wrth erchwyn gwely hen ŵr, a oedd wedi mwynhau'r cwmni braidd. Ac yn awr, roedd yn amser iddo dynnu ei lyfr nodiadau.

"Rŵan, Mi wn i i chi weld rhywbeth, syr," meddai. "Mi oeddech chi yno."

WELL, DO, meddai Angau. ROEDD YN RHAID I MI FOD, WYDDWCH CHI. OND MAE HYN YN ANARFEROL IAWN.

"Dach chi'n gweld, syr," dywedodd Corporal Moronen, "fel dwi'n deall y gyfraith, mi ydach chi'n Affeithiwr Cyn Y Ffaith. Neu Wedi'r Ffaith, o bosib'."

FI YDY'R FFAITH, HOGYN.

"A fi ydy swyddog y Gyfraith," atebodd Corporal Moronen. "Mae'n rhaid cael cyfraith, wyddoch chi."

RYDYCH CHI ISIO I MI ...YM...GRASIO RHYWUN I FYNY? DWEUD AR RYWUN? CANU FEL 'DERYN? NA. LLADDODD NEB MR. SLUMBER. ALLA I MO'CH HELPU FANNA.

"O, dwn im, syr," meddai Moronen, "Dwi'n meddwl eich bod chi wedi."

DAMIA.

Gwyliodd Angau Foronen yn gadael, gan wyro ei ben wrth iddo fynd i lawr grisiau cul yr hofel.

RŴAN, 'TE, BLE OWN I...

"Sgusodwch fi," dywedodd yr henwr crin ar y gwely. "Dwi'n digwydd bod yn 107, wsti. Does gen i fawr o amser."

A. IE. YN HOLLOL.

Hogodd Angau ei gryman. Dyma oedd y tro cyntaf iddo helpu'r heddlu efo'u hymholiadau. Ond eto, roedd gan bawb ei waith.


Camodd Corporal Moronen yn hamddenol o gwmpas y dref. Roedd ganddo Ddamcaniaeth. Roedd o wedi darllen llyfr ar Ddamcaniaethau. Roedd yn fater o roi'r arwyddion i gyd at ei gilydd, a chael Damcaniaeth. Roedd yn rhaid i bobeth ffitio.

Bu sosejys. Buasai'n rhaid i rywun brynu sosejys. A bu ceiniogau. Fel rheol, dim ond un rhan fechan o'r hil ddynol dalai am bethau â cheiniogau.

Galwodd ar ddyn gwneud sosejys. Cafodd hyd i grŵp o blant, a sgwrsio efo nhw am sbel.

Yna, cerddodd yn ôl i'r lôn, lle roedd Corporal Nobbs wedi gwneud amlinelliad o'r gelain ar y palmant efo sialc (yna ei liwio ac ychwanegu pib a ffon, efo coed a llwyni yn y cefndir - yn barod roedd pobl wedi taflu 7c yn ei helm).

Sylwodd ar y domen sbwriel ym mhen draw'r lôn ac eistedd ar faril wedi'i chwalu.

"Iawn...Allwch chi ddod allan rŵan," meddai i'r byd i gyd. "Wyddwn i ddim fod bwcis ar ôl yn y byd bellach."

Bu siffrwd yn y domen sbwriel. Cerddant allan - y dyn bach cefngrwm efo'r het goch a'r trwyn bachog, y wraig fechan a'r het ffriliog yn cario baban oedd yn llai byth, y plismon bach, y ci â'r ffril o gwmpas ei wddf a'r crocodeil bitw bach.

Eisteddod Corporal Moronen a gwrando.

"Fo wnaeth i ni ei wneud o," dywedodd y dyn bach. Roedd ganddo lais syfrdanol o ddwfn. "Fuodd o'n arfer i'n curo ni. Curo'r croc hyd yn oed. Dyna'r cyfan oedd o'n deall, taro pethau efo ffon. A fuodd o'n arfer cymryd yr arian i gyd gasglodd Tobi'r ci, a meddwi. Ac yna, wnaethon ni redeg i ffwrdd, ac mi wnaeth o'n dal ni yn y lôn a dechrau ar Jiwdi a'r babi, ac mi syrthiodd o, a -"

"Pwy darodd o gynta'?", gofynodd Moronen.

"Pawb!"

"Ond nid yn rhyw galed iawn," meddai Moronen. "Rydach chi gyd yn rhy fach. Nid chi laddodd o. Mae gen i ddatganiad clir iawn ynglŷn â hynny. Felly, mi es i i gael golwg arall arno fo. Roedd o wedi tagu i farwolaeth. Be' 'di hwn?"

Daliodd ddisgen fach o ledr yn ei law.

"Swosl ydi hwnna," atebodd y plismon bach. "Mi oedd o'n defnyddio hwnna at y lleisiau. Dywedodd o nad oedd ein lleisiau ni'n ddigon doniol."

"Dyna'r ffordd i'w wneud o!", dywedodd yr un o'r enw Jiwdi.

"Roedd o'n sownd yn ei gorn gwddf o," meddai Moronen. "Dwi'n awgrymu i chi redeg i ffwrdd. Mor bell ag y gallwch chi."

"Roedden ni'n meddwl am ddechrau menter gydweithredol", meddai'r prif-fwci.

"Chi'n gwbod...drama arbrofol, theatr stryd, y math 'na o beth. Nid taro'n gilydd efo ffyn..."

"Fuoch chi'n gwneud hynny ar gyfer plant?", gofynodd Moronen.

"Mi ddwedodd o fod o'n fath newydd o adloniant. Ddwedodd o fase'n ennill ei dir."

Safodd Moronen, a thaflu'r swosl i'r sbwriel.

"Fydd pobl ddim yn derbyn hynny," meddai. "Nid dyna'r ffordd i'w wneud o."

[*] Sydd yn wastad ac sydd yn mynd trwy'r gofod ar gefn crwban môr, a pham lai...


Ysgrifennwyd "Theatre Of Cruelty" yn wrieddiol ar gyfer cylchgrawn "Bookcase" W.H.Smith. Cyhoeddwyd y fersiwn estynedig uchod wedyn yn y rhaglen ar gyfer cymanfa OryCon 15.

Y mae'r fersiwn ar-lein hon o'r stori ar gael ar y We trwy ganiatâd caredig yr awdur, sydd yn cadw holl hawliau adargraffu a phob hawl arall i'r story. Yn ei eiriau ef ei hun : "Dwi ddim isio'i gweld hi'n cael ei dosbarthu trwy'r wasg yn yr unman, ond does dim ots i mi os bydd pobl yn ei lawrlwytho at eu difyrrwch nhw eu hunain."

Cyfieithiad gan Nigel Stapley (H) 2002.


[Up]
This section of L-Space is maintained by The L-Space Librarians

The L-Space Web is a creation of The L-Space Librarians
This mirror site is maintained by Colm Buckley